Gwybodaeth bwysig ar gyfer Cwsmeriaid sydd â Chyflyrau Meddygol sy’n bodoli eisoes Mae’n rhaid i ni eich hysbysu o sut i wella eich mynediad at bolisїau yswiriant teithio sydd yn cynnwys yswiriant ar gyfer cyflyrau meddygol mwy difrifol.
Mae’r ffactorau canlynol yn penderfynu pryd mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i chi:
Hoffem roi manylion i chi am y Medical Cover Firm Directory sy’n gyfeiriadur sydd ar gael i’r cyhoedd, ac sydd ond yn rhestru cwmnïau sy’n darparu, neu’n trefnu polisïau yswiriant teithio sy’n ymwneud â chyflyrau meddygol mwy difrifol. Bydd y cyfeiriadur hefyd yn dangos digon o wybodaeth i chi am bob cwmni a restrir fel y gallwch wneud dewis gwybodus o’r cychwyn cyntaf ynghylch pa ddarparwr sy’n medru bodloni eich anghenion.
Rhai o fanteision defnyddio’r cyfeiriadur yw ei bod yn ei gwneud hi’n haws i chi lywio drwy’r farchnad sydd ar gael ac yn fwy tebygol y byddwch yn dod o hyd i gwmni sydd:
Mae’r Medical Cover Firm Directory ar gael yma:
Mae’r Money and Pensions Service (MaPS) wedi lansio cyfeiriadur yswiriant teithio ar ei gwefan Money Advice Service :
https://traveldirectory.moneyadviceservice.org.uk/en
Gall defnyddwyr wneud ymholiadau ynglŷn â’r cyfeiriadur trwy Ganolfan Cyswllt Cwsmer Money Advice Service , sydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8yb i 6yh trwy ddefnyddio’r manylion isod
Ffôn – 0800 138 7777
E-bost – enquiries@maps.org.uk
Cyfeiriad – The Money Advice Service, Holborn Centre, 120 Holborn, London, EC1N
2TD