Gwasanaethau Yswiriant FUW yn ail-lansio tîm broceriaid ardal Caernarfon

Gwasanaethau Yswiriant FUW yn ail-lansio tîm broceriaid ardal Caernarfon

Wrth i Undeb Amaethwyr Cymru (UAC CYF.FUW LTD.) ddathlu saith deg mlynedd ers ei sefydlu ym 1955, mae Gwasanaethau Yswiriant FUW, sef arddull marchnata FUW Insurance Services Ltd is-gwmni i’r Undeb, yn cryfhau ei hymrwymiad i’r gymuned leol drwy ehangu’r tîm yng Nghaernarfon. Y bwriad yw gwella ein darpariaeth gan gyfuno profiad helaeth gydag ystod eang o ddewisiadau yswiriant amrywiol ar gyfer y farchnad leol.

Mae’r tîm newydd yn cyfuno arbenigedd a phrofiad y Gweithredwyr Yswiriant profiadol Dafydd Peredur Jones a Dylan Evans – sy’n rhannu dros hanner canrif o brofiad yswiriant rhyngddynt – gyda sgiliau, gwybodaeth a brwdfrydedd Angharad Williams a Naomi Owen – dwy sydd â gwreiddiau cadarn yng nghymunedau gogledd-orllewin Cymru.

Wedi’i leoli yn ein swyddfa ar Stryd y Castell yng nghanol Caernarfon, mae Gwasanaethau Yswiriant FUW, sef brocer yswiriant arbenigol mwyaf blaenllaw Cymru, yn ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth personol gan weithio gydag ystod eang o gwmnïau yswiriant masnachol ac amaethyddol. Yr ydym yn gallu cynnig polisiau yswiriant cystadleuol a chynhwysfawr sy’n diwallu anghenion unigryw ein cleientiaid.

Ymhlith y dewis helaeth o wasanaethau yswiriant a gynigir gan Wasanaethau Yswiriant FUW mae ystod o becynnau amaethyddol; o yswiriant da byw i dractor a quad, adeiladau fferm i offer ac unrhyw beth arall sydd angen arnoch ar fuarth y fferm.

Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW hefyd yn gallu diwallu gofynion busnesau masnachol amrywiol ynghyd â chynnig gwasanaeth cyflawn i unigolion a theuluoedd. Yn fras, o yswiriant i fanwerthwyr, tafarndai a bwytai, i yswiriant gwestai a busnesau hamdden neu bolisiau ar gyfer masnachwyr a chontractwyr fe allwn eich cefnogi.

Dywedodd Dafydd Peredur Jones, aelod profiadol o’r tîm sydd wedi gweithio i Wasanaethau Yswiriant FUW ers 2002:

“Mae ein gwaith yng Ngwasanaethau Yswiriant FUW yng Nghaernarfon yn cael ei yrru gan ethos lleol cryf: rydym yn byw yma, yn gweithio yma, ac yn yswirio yma.

Rwy’n falch iawn felly o fod yn rhan o’r tîm newydd yma yng Nghaernarfon sy’n dod ag ystod o brofiad, arbenigedd a brwdfrydedd at ei gilydd wrth hyrwyddo’r agwedd bersonol at ddiwallu anghenion yswiriant pobl a busnesau.

O ddefaid i siopau, tractorau i fasnachwyr; yng Ngwasanaethau Yswiriant FUW rydym yn rhoi ein cymunedau lleol wrth galon ein gwaith – gan wasanaethu anghenion penodol ein trigolion a’n busnesau lleol. Cysylltwch â’r tîm, neu galwch yn y swyddfa i gael rhagor o wybodaeth am ein hystod eang o gynnyrch a gwasanaethau.”

Aelodau newydd o’r tîm yw Naomi Owen o Lanberis sy’n dychwelyd i swyddfa Caernarfon fel Gweithredwr Yswiriant, gan fanteisio ar ei phrofiad blaenorol yn y busnes dros saith mlynedd yn ôl. Law yn llaw â Naomi mae Angharad Williams, sydd ar hyn o bryd yn Gydlynydd Yswiriant i Wasanaethau Yswiriant FUW yn ein swyddfa yn Llanrwst, yn ymuno â thîm Caernarfon fel Gweithredwr Yswiriant.

Wrth grynhoi dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru, Guto Bebb:

“Rydym wrth ein bodd gyda’r tîm newydd yng Nghaernarfon. Wrth gyfuno cyfoeth o brofiad, arbenigedd, a chysylltiadau lleol cryf, mae’r datblygiad hwn yn ategu ein hymdrechion i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael yr yswiriant gorau posibl am y prisiau mwyaf cystadleuol.

Mae’n arbennig o briodol bod cryfhau’r tîm yng Nghaernarfon yn digwydd fel y mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dathlu penblwydd arbennig yn saith deg oed. Ers ein sefydlu, mae darparu gwasanaeth yswiriant lleol o safon, gyda pwyslais ar greu perthynas bersonol, wedi bod wrth galon gwaith a gweledigaeth Undeb Amaethwyr Cymru, ac mae tîm newydd yng Nghaernarfon yn ategu ymhellach ein hymrwymiad i’n cymunedau lleol.”

I ddarganfod mwy am y gwasanaethau a chynnyrch a gynigir gan dîm Gwasanaethau Yswiriant FUW yn Sir Gaernarfon, neu i drafod eich anghenion yswiriant personol, cysylltwch â ni heddiw ar 01286 675136.