
Brocer yswiriant blaenllaw yn lansio academi fewnol
Mae’r brocer yswiriant amaethyddol arbenigol blaenllaw, Gwasanaethau Yswiriant FUW Ltd, wedi lansio Academi fewnol ar gyfer Gweithredwyr Cyfrif er mwyn datblygu a meithrin sgiliau staff o fewn y cwmni.
Mae sefydlu’r academi yn dilyn proses ddethol fewnol drylwyr a welodd chwe ymgeisydd llwyddiannus o swyddfeydd Gwasanaethau Yswiriant FUW ledled Cymru yn elwa o’r cyfle.
Mae’r rhaglen 18 mis yn cynnwys sesiynau hyfforddi misol sy’n canolbwyntio ar ystod o ddyletswyddau Gweithredwyr Cyfrif, gan gynnwys ymweliadau fferm ac ymgysylltu gyda a chyfarfod partneriaid yswiriant.
Dechreuodd y rhaglen gyda sesiwn undydd yn swyddfa ERS yn Abertawe, sef yswiriwr moduron arbenigol blaenllaw o fewn y DU. Cafodd cyfranogwyr o’r academi gyfle amhrisiadwy i rwydweithio gyda staff ERS, yn ogystal â chyfle i feithrin gwybodaeth fanwl am wasanaethau’r cwmni â’r tirwedd yswiriant ehangach.
Mae sefydlu’r academi fewnol yn atgyfnerthu ymrwymiad parhaus Gwasanaethau Yswiriant FUW i ddatblygu’i gweithlu – gyda chyfres o wobrau diweddar yn dyst i ymdrechion y cwmni.
Yn gynharach eleni, dathlodd y cwmni lwyddiant triphlyg yng ngwobrau ‘Success Through Skills’ 2025, gan gynnwys gwobr aur yn y categori Dysgwr Prentisiaeth Uwch y Flwyddyn a gwobr arian am Brentis y Flwyddyn.
Yn Nhachwedd 2024, enillodd y busnes wobr Cyflogwr y Flwyddyn (Bach) ym mhrif seremoni wobrwyo a chymwysterau Prentisiaeth flynyddol y Sefydliad Siartredig Yswiriant (CII) a’r Gymdeithas Cyllid Personol (PFS) yn Llundain.
Yn dilyn lansio’r academi fewnol, dywedodd Karen Royles, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Chefnogaeth Gwerthu Gwasanaethau Yswiriant FUW: “Roeddem ar ben ei digon yn lansio ein Hacademi Gweithredwyr Cyfrif yn ERS yn Abertawe, sy’n bartner yswiriant gwerthfawr.
Fel busnes, rydym eisoes wedi gweld llwyddiant ysgubol gyda dyrchafiadau mewnol ac rydym yn frwd iawn dros weld y patrwm hwn yn parhau. Bydd yr academi hon yn darparu cyfleoedd amhrisiadwy i feithrin gwybodaeth, sgiliau a hyder ein staff, a fydd, yn ei dro, yn creu llwybr dilyniant cliriach – gan sicrhau manteision i’r busnes a’n cwsmeriaid.”
Ychwanegodd Ann Beynon OBE, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Yswiriant FUW: “Rydym wrth ein bodd o lansio ein Hacademi Gweithredwyr Cyfrif, gan eto gadarnhau ac atgyfnerthu ein hymrwymiad hirdymor i fuddsoddi yn nhwf a datblygiad ein gweithlu.
Mae lansio’r academi, yn dilyn ein llwyddiant triphlyg ddiweddar yng ngwobrau ‘Success through Skills’ 2025, yn profi eto ein hymroddiad i feithrin diwylliant o ragoriaeth sy’n darparu gwerth ac arbenigedd i’n cwmni a’n cleientiaid.