Brocer yswiriant blaenllaw yn penodi’r cyfarwyddwr benywaidd cyntaf

Brocer yswiriant blaenllaw yn penodi’r cyfarwyddwr benywaidd cyntaf

Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf, brocer yswiriant amaethyddol mwyaf Cymru wedi cyhoeddi penodiad Karen Royles fel ei Chyfarwyddwr Gweithredol benywaidd cyntaf yn dilyn cymeradwyaeth gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

Mae Karen, sy’n byw yn ardal Wrecsam, yn ymuno â’r Bwrdd fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Chefnogaeth Gwerthiannau, gan ddod â chyfoeth o brofiad i’r rôl, ar ôl bod mewn swyddi amrywiol o fewn y sefydliad yn flaenorol.

Gyda chefndir yn y sector lletygarwch, ymunodd Karen â Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf fel gweinyddwr cyfrif yswiriant yn swyddfa Rhuthun ar gytundeb 6 mis dros gyfnod mamolaeth ym mis Tachwedd 2015. Dros y 9 mlynedd diwethaf, mae hi wedi mynd ymlaen i gael dyrchafiad i sawl swydd o fewn Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf ac UAC Cyf, gan gynnwys Rheolwr Gweinyddol, ac ar hyn o bryd fel Rheolwr Gweithrediadau’r Grŵp a hynny ers mis Mawrth 2022.

Mae penodiad Karen i Fwrdd Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf yn golygu mai hi yw’r fenyw gyntaf i’w phenodi’n gyfarwyddwr gweithredol i’r Bwrdd, ac yn dilyn penodi’r wraig fusnes blaenllaw, Ann Beynon OBE yn Gadeirydd Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf yn 2023 – y fenyw gyntaf yn y swydd hynny.

Wrth ymateb i’w phenodiad, dywedodd Karen Royles: “Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi i fwrdd Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf, ac edrychaf ymlaen at barhau i ddefnyddio fy ngwybodaeth a’m mhrofiad i helpu i ddarparu gwasanaethau yswiriant allweddol i gymunedau a busnesau ledled Cymru.

Yn benodol, hoffwn gydnabod a diolch am y gefnogaeth anhygoel a gefais gan bawb yn nhimau Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf ac UAC Cyf dros y 9 mlynedd diwethaf. Rwyf wedi cael y cyfle i ddatblygu ac rwy’n ddiolchgar bod busnes sy’n ymfalchïo mewn adeiladu strwythur ar gyfer datblygiad staff ar bob lefel yn gallu profi’r ymrwymiad hwnnw trwy eu cefnogaeth i’m llwybr gyrfa i dros y naw mlynedd diwethaf.

Edrychaf ymlaen at yr her newydd, a byddaf yn ymdrechu i adeiladu ar safle Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf yn y farchnad amaethyddol a masnachol.”

Croesawodd Ann Beynon OBE, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf, benodiad Karen, gan ddweud: “Rwy’n falch iawn o groesawu Karen i Fwrdd Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf. Mewn diwydiant lle mae menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli, mae ei phenodiad i rôl mor uwch i’w groesawu.”

Ar ôl gweithio’n agos gyda Karen dros y blynyddoedd diwethaf, nid oes unrhyw amheuaeth y bydd ei harbenigedd a’i phrofiad helaeth – o fod yn weinyddwr cyfrif i’r brif swyddfa – yn cryfhau ein gallu i ddarparu gwasanaethau a chymorth eithriadol i aelodau, ac yn parhau i sicrhau llwyddiant hirdymor Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf fel un o brif froceriaid yswiriant Cymru.”