Swydd Wag – Cyfarwyddwr Anweithredol

Swydd Wag – Cyfarwyddwr Anweithredol

Sefydlwyd Undeb Amaethwyr Cymru yn 1955 ac mae’n gweithio ar ran yr aelodau i gyflawni’r weledigaeth o ffermydd teuluol ffyniannus, cynaliadwy yng Nghymru. Mae’n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod gan Gymru ddiwydiant amaeth bywiog, sy’n cefnogi cymunedau gwledig, yn gwarchod yr amgylchedd a sicrhau diogelwch bwyd. Mae’r cyd-destun gwledig hwn yn hollbwysig er mwyn i’r iaith Gymraeg a’r diwylliant ffynnu.

Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf yn frocer yswiriant ac yn is-gwmni o eiddo llwyr Undeb Amaethwyr Cymru (UAC CYF. FUW LTD).

Yn fuan, bydd yna le gwag ar fwrdd Gwasanaethau Yswiriant FUW ac rydym am ei lenwi cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf yn fusnes sydd wedi tyfu’n sylweddol dros y ddwy i dair blynedd diwethaf. Mae wedi buddsoddi’n sylweddol yn ei allu a’i strwythurau mewnol er mwyn cefnogi twf yng Nghymru a thros y ffin yn y dyfodol.

Gydag empathi at Gymru a ffermio, ond nid o reidrwydd o gefndir ffermio, byddem yn disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos bob un o’r canlynol:

● Cefndir busnes llwyddiannus mewn cwmni preifat
● Arbenigedd mewn cyfrifeg ariannol – gyda chymwysterau perthnasol
● Profiad o dyfu busnesau drwy gynnydd naturiol a/neu gaffael
● Dealltwriaeth o arfer gorau o ran rheoli pobl, cydraddoldeb ac amrywiaeth
● Dealltwriaeth o Reoleiddio Ariannol a chyfraith cwmnïau
● Rhwydwaith o gysylltiadau a fydd yn ychwanegu gwerth at dwf Gwasanaethau Yswiriant FUW
● Dealltwriaeth gyffredinol o’r farchnad yswiriant

Sgiliau dymunol er nad hanfodol eraill yw:

● Profiad o farchnata, yn bennaf o ran dadansoddi marchnadoedd er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer twf busnes
● Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn sefydliad dwyieithog, felly byddai’r gallu i siarad Cymraeg o fantais ond nid yw’n hanfodol

Tâl

Mae’r rôl hon yn cynnig tâl o £6,000 y flwyddyn, ynghyd ag ad-daliad o holl gostau rhesymol.

Ymrwymiad Amser

Yn gyffredinol, cynhelir cyfarfodydd Bwrdd ar-lein, er y rhagwelir y bydd o leiaf un cyfarfod y flwyddyn yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb yng nghanolbarth Cymru ac y bydd yn cynnwys adolygiad strategaeth flynyddol. Fel arfer mae 10 cyfarfod Bwrdd y flwyddyn. Ymgynghorir â holl aelodau’r bwrdd i i weld a ydynt ar gael wrth drefnu’r dyddiadau a’r amseroedd.

Mae dau brif is-bwyllgor i’r Bwrdd; Archwilio a Risg a Chydnabyddiaeth. Gofynnir i’r ymgeisydd llwyddiannus eistedd ar y Pwyllgor Archwilio a Risg. Mae is-bwyllgorau fel arfer yn cyfarfod ar-lein.

Mae’r is-bwyllgorau hyn yn cyfarfod o bryd i’w gilydd â’u swyddogion cyfatebol o fewn Undeb Amaethwyr Cymru, yn enwedig wrth drafod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Grŵp. Ymgynghorir â holl aelodau’r bwrdd sy’n eistedd ar is-bwyllgor i weld a ydynt ar gael wrth drefnu’r cyfarfodydd.

Y broses ymgeisio

Gellir trefnu trafodaeth anffurfiol am y rôl trwy gysylltu â Phrif Weithredwr y Grŵp, Guto Bebb, drwy e-bost: guto.bebb@fuw.org.uk

Gellir gwneud ceisiadau trwy Porth (e.e. LinkedIn, Swyddle, nedonboard.com) trwy lanlwytho CV a llythyr rhagarweiniol.

Fel arall, dylid gwneud ceisiadau drwy anfon CV a llythyr rhagarweiniol at:

Caryl Roberts,
Rheolwr Datblygu Busnes,
Undeb Amaethwyr Cymru,
Llys Amaeth,
Plas Gogerddan,
Aberystwyth, Ceredigion
SY23 3BT

caryl.Roberts@fuw.org.uk

Dyddiad cau: 11 Ebrill 2025

Cyfweliadau

Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 28ain o Ebrill 2025 gan banel a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf ac Undeb Amaethwyr Cymru. Bydd lleoliad y cyfweliad yn dibynnu ar leoliad ac argaeledd yr ymgeisydd.

Ein bwriad yw penodi yn ail chwarter 2025.