Llwyddiant Driphlyg i Frocer Yswiriant Cymreig blaenllaw

Success Through Skills Awards 2025

Llwyddiant Driphlyg i Frocer Yswiriant Cymreig blaenllaw

Dathlodd Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf, brocer yswiriant amaethyddol arbenigol mwyaf blaenllaw Cymru, lwyddiant triphlyg yng Ngwobrau Llwyddiant Trwy Sgiliau 2025 a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

Fel rhan o’u llwyddiant, cipiodd Ann Harries Jones, Uwch Weithredwr Cyfrif Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf, y wobr aur yng nghategori Hyrwyddwr y Gymraeg, tra enillodd Hazel Eldridge, Rheolwr Gweinyddol gyda Gwasanaeth Yswiriant FUW Cyf, y wobr aur yn y categori Dysgwr Prentisiaeth Uwch y Flwyddyn. Hefyd enillodd Faye Morgan o Wasanaethau Yswiriant FUW Cyf y wobr arian yn y categori Dysgwr Prentisiaeth y Flwyddyn.

Mae’r seremoni agoriadol, a gynhelir gan y darparwyr hyfforddiant ACT ac ALS, yn anrhydeddu cyflawniadau dysgwyr a chyflogwyr sydd wedi dangos ymroddiad rhagorol i dyfu eu sgiliau, datblygu eu gyrfaoedd a chyfrannu at eu gweithle.

Mae Ann Harries Jones wedi gweithio i Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf ers dros dri degawd, gan weithio fel Gweithredwr Cyfrif ar gyfer Ynys Môn. Yn ystod blynyddoedd lawer Ann gyda’r brocer, mae hi wedi bod yn allweddol wrth sicrhau nad yw cwsmeriaid Cymraeg yn cael eu gwahaniaethu yn y broses o drafod eu hanghenion yswiriant; gan arwain y ffordd o ran sicrhau bod llawer o ddogfennaeth cleient y cwmni hefyd ar gael yn y Gymraeg. Roedd angerdd Ann tuag at y Gymraeg a’i diwylliant hefyd yn amlwg yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2017 a gynhaliwyd ym Modedern, Ynys Môn, lle bu Ann yn rhan o’r tîm a sicrhaodd bresenoldeb y cwmni yn y digwyddiad dros yr 8 diwrnod.

Ymunodd Hazel Eldridge â Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf fel Cydlynydd Cyfrif, yn dilyn 37 mlynedd o brofiad yn y sector bancio. Disgleiriodd ar unwaith yn y rôl, a chafodd ei dyrchafu’n fuan yn Gydlynydd Cyfrif Arweiniol Rhanbarthol ac yn ddiweddarach yn Rheolwr Gweinyddol. Yn ei rôl, mae Hazel yn rheoli 32 o Gydlynwyr Cyfrif gan reoli gallu’r tîm yn ystod cyfnodau heriol, gan gynnwys llywio’r tîm drwy heriau cyflogaeth ar ôl Covid. Mae arweinyddiaeth ac anogaeth Hazel wedi helpu i sicrhau bod y busnes bellach yn gweithredu gydag 85% o’r staff wedi cyflawni eu cymhwyster Tystysgrif CII neu yn y broses o gwblhau’r cwrs.

Finally, silver award winner Faye Morgan joined FUW Insurance Services Ltd in July 2023 with no background or experience working in the insurance or financial sector. Since starting her employment, Faye achieved her CII Cert qualification within 13 months, growing from strength to strength in the role and absorbing a significant amount of knowledge in a short period of time. She has also been successful in securing a place on the FUW Insurance Services Ltd’s in-house ‘Account Handler Academy’.

Yn olaf, ymunodd enillydd y wobr arian Faye Morgan â Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf ym mis Gorffennaf 2023 heb unrhyw gefndir na phrofiad o weithio yn y sector yswiriant neu ariannol. Ers dechrau ei chyflogaeth, enillodd Faye ei chymhwyster Tystysgrif CII o fewn 13 mis, gan dyfu o nerth i nerth yn y rôl ac amsugno cryn dipyn o wybodaeth mewn cyfnod byr o amser. Mae hi hefyd wedi llwyddo i sicrhau lle ar ‘Academi Cydlynwyr Cyfrif’ mewnol Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf.

Wrth sôn am lwyddiant triphlyg Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf yn y seremoni wobrwyo, dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Ann Beynon OBE:

“Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant Ann, Hazel a Faye yn y seremoni wobrwyo ddiweddar hon, ac fel busnes mae’n anrhydedd i ni weld ein staff yn cael eu cydnabod unwaith eto mor uchel am eu gwaith caled a’u hymroddiad.

Mae’r llwyddiannau hyn yn arbennig o bleserus gan eu bod yn ymgorffori’r cyfoeth o dalent, profiad a brwdfrydedd sydd gennym yng Ngwasanaethau Yswiriant FUW Cyf ar draws sawl cenhedlaeth – o waith caled ac ymroddiad Ann i’r Gymraeg dros dri degawd ym Môn, i gyflawniadau a brwdfrydedd aruthrol Faye ers ymuno â’r tîm ym mis Gorffennaf 2023.

Yn y cyfamser, mae mentrau datblygu staff Hazel yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan y cydlynwyr cyfrif y mae’n eu cefnogi a gan y busnes cyfan. Mae ei gwaith wedi cyfrannu at gynnydd refeniw sylweddol ar draws y busnes sy’n dangos mae pobl yw ased pwysicaf cwmni.

Mae eu cyflawniadau yn dangos y gwerth o fuddsoddi yn ein pobl a meithrin diwylliant o ragoriaeth, sydd o fudd i’r cwmni a’r cwsmeriaid.”

Ychwanegodd Guto Bebb, Prif Weithredwr Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf:

“The recent awards at the Success Through Skills Awards 2025 are a cause of celebration for everyone at FUW Insurance Services Ltd. 

“Mae’r gwobrau diweddar yng Ngwobrau Llwyddiant Trwy Sgiliau 2025 yn achos dathlu i bawb yng Ngwasanaethau Yswiriant FUW Cyf.

Yn ogystal â llwyddiant ysgubol Ann wrth ennill y categori Hyrwyddwr y Gymraeg, rydym hefyd yn falch iawn o weld ein buddsoddiad mewn prentisiaethau yn cael ei gydnabod unwaith eto trwy wobrau Hazel a Faye.

Mae’r ddau lwyddiant yn dilyn buddugoliaeth ddwbl arall yng Ngwobrau Prentisiaethau blynyddol y Sefydliad Yswiriant Siartredig (CII) ym mis Tachwedd, ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd eithriadol i bobl ifanc ennill sgiliau gwerthfawr a lansio gyrfaoedd llwyddiannus yng nghefn gwlad Cymru.”