Beicwyr yn codi dros £26,000 ar gyfer Clefyd Niwronau Motor
Mae Gweithredwyr Yswiriant Gwasanaethau Yswiriant FUW Llambed, Gwion James a Dafydd Evans, a oedd yn rhan o dîm a gwblhaodd daith feicio elusennol 555 milltir, wedi mynegi eu diolch am gefnogaeth pawb.
Cwblhaodd deuddeg o gyn-chwaraewyr Clwb Rygbi Aberystwyth daith feicio elusennol 555 milltir Doddie o Gaerdydd i Gaeredin ar 9-11 Chwefror.
Roedd Doddie Weir yn gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol yr Alban a gollodd ei frwydr hir gyda MND ym mis Tachwedd 2022. Gan adael Caerdydd am 8yb fore Iau, roedd Clwb Rygbi Aberystwyth yn un o dros 20 o dimau eraill a gyrhaeddodd Gaeredin am 1yp ar y dydd Sadwrn, mewn pryd ar gyfer y gêm rygbi rhwng yr Alban a Chymru.
“Roedd yn brofiad anhygoel,” meddai Dafydd Evans, a gwblhaodd 280 milltir dros y ddau ddiwrnod a hanner.
“Doedden ni wir ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Roedd gyda ni dîm ymroddedig ac roedden ni’n ffodus i gael tywydd da, a wnaeth yr her yn llawer mwy pleserus,” ychwanegodd.
Cafodd y ddau eu calonogi gan y gefnogaeth ar y daith a gan bobl gartref.
“Cafodd y digwyddiad ei drefnu a’i hyrwyddo’n dda iawn. Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth gwirfoddolwyr y Clybiau Rygbi ar hyd y daith a ddarparodd fwyd a diodydd poeth. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd at ein cronfa, sydd wedi codi dros £26,000 ar gyfer ymchwil MND,” meddai Gwion James.
Safodd cannoedd o bobl y tu allan i’w cartrefi i godi calon y beicwyr wrth iddynt fynd heibio. “Roedd y gefnogaeth ar hyd y ffyrdd, yn enwedig yn yr Alban yn anhygoel. Roedd yn adlewyrchiad o’r parch a’r ewyllys da sydd gan bobl tuag at Doddie Weir a’r sefydliad MND,” ychwanegodd Gwion James.