Oes gyda chi gynlluniau mewn lle?
Mae bywyd yn mynd rhagddo tra rydych chi’n brysur yn gwneud cynlluniau, ac yn aml rydyn ni mor brysur fel nad ydyn ni’n cymryd llawer o sylw o ddamweiniau trwch blewyn, nac yn meddwl beth fyddai’n digwydd pe bai’r gwaethaf yn digwydd i ni. Dyma’r sefyllfaoedd y dylem feddwl ynglŷn â sut mae ein teulu’n cael ei amddiffyn. Sut gallwn ni amddiffyn y bywyd rydyn ni wedi’i adeiladu gyda’n gilydd?
Mae yswiriant bywyd yn golygu y gallwch chi barhau i ddarparu’r pethau sy’n wirioneddol bwysig hyd yn oed ar ôl i chi farw. Mae’n ddefnyddiol ystyried yr effaith byddai eich marwolaeth neu salwch yn ei gael ar eich cymar neu deulu sy’n dibynnu ar eich cymorth ariannol.
Yma yng Ngwasanaethau Yswiriant UAC gallwn siarad â chi am yr hyn y gall amddiffyniad unigol ei gwmpasu, megis Diogelu Incwm, Yswiriant Salwch Difrifol ac Yswiriant Bywyd.
Rydym yn deall y gall taliadau morgais, costau meddygol neu ymrwymiadau ariannol eraill fod yn faich ar eich teulu. Ond gall polisi yswiriant diogelu eich helpu i ganolbwyntio ar wella, ac osgoi pwysau ychwanegol pan fyddwch chi fwyaf angen hynny, gan roi tawelwch meddwl ichi.
Gall derbyn diagnosis o salwch difrifol fod yn adeg anodd. Mi ddylech chi allu canolbwyntio ar wella, yn hytrach na phoeni am eich sefydlogrwydd ariannol.
Mae’n werth meddwl am yswiriant bywyd fel rhwyd diogelwch. Gallai dalu swm o arian petaech chi’n marw yn ystod cyfnod y polisi. Neu os ydych chi’n cael diagnosis o salwch difrifol, mi all yr yswiriant iawn wneud cyfandaliad i liniaru’r effaith ariannol arnoch chi a’ch teulu. Petaech chi’n cael diagnosis o salwch difrifol, mi fyddai yswiriant diogelu incwm yn sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn swm misol nes ichi allu dychwelyd i’r gwaith.
Rydym yma i chi os ydych am siarad â ni er mwyn ffurfio cynllun amddiffyn sy’n seiliedig ar eich anghenion chi a’ch teulu.