
Ychwanegiad newydd i Banel o yswirwyr FUWIS
Mae Gwasanaethau Yswiriant UAC yn falch o gyhoeddi bod AGRi-Insurance yn ychwanegiad newydd at ein panel o yswirwyr fferm gyfun.
Ffurfiwyd AGRI-i Insurance o dan arweiniad Glyn Rowett, Anthony Murray a Robert Dale er mwyn cwrdd â gofynion y ffermwr a’r perchennog ystâd fodern.
Gyda dros 50 mlynedd o brofiad yn y farchnad yswiriant amaethyddol, bydd AGRi-Insurance yn cynnig mynediad i lwyfan TG pwrpasol gan roi cyfle i froceriaid fewnbynnu eu dyfynbrisiau eu hunain yn ogystal â derbyn adnewyddiadau awtomataidd.
Dywedodd Guto Bebb, Prif Weithredwr Grŵp ar gyfer Gwasanaethau Yswiriant UAC:
“Fel un o’r broceriaid mwyaf yng Nghymru rydym yn parhau i ehangu ein hamrediad o leoli risgiau fferm er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau i’n cwsmeriaid ac rydym yn gyffrous i gyd-weithio gydag AGRi-Insurance.”