Gwasanaethau Yswiriant FUW yn dod yn bartner swyddogol i Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru
Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf. yn falch iawn o ymuno â Phartneriaeth Diogelwch Ffermydd Cymru (WFSP) fel partner swyddogol ar ôl ymuno â’r siarter swyddogol yn ddiweddar.
Pwrpas Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yw creu rhwydwaith o bartneriaid a sefydliadau a fydd yn arwain ar gydweithio i hyrwyddo diwydiant ffermio mwy diogel. Mae’r Bartneriaeth yn anelu at leihau’n gyson nifer y marwolaethau ac anafiadau a achosir i ffermwyr, eu teuluoedd, gweithwyr fferm ac eraill sy’n dod i gysylltiad â gweithgareddau fferm.
“Wrth ymuno â Phartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru edrychwn ymlaen at gydweithio i ddatblygu dealltwriaeth a chreu ymwybyddiaeth o arferion gorau Iechyd a Diogelwch ar draws y diwydiant ffermio. Fel partner swyddogol byddwn yn rhoi arweiniad i’r diwydiant ffermio yng Nghymru ar Iechyd a Diogelwch, gan herio agweddau traddodiadol at risg,” meddai cynrychiolydd Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf. ar y grŵp, Rebecca Prothero.
Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr UAC Cyf. Guto Bebb: “Mae newid agweddau yn y diwydiant amaethyddol tuag at ddiogelwch fferm a gweld newid parhaol mewn ymddygiad yn rhywbeth rydyn ni’n ei gymryd o ddifrif fel grŵp ac rydw i wrth fy modd bod UAC a FUWIS yn bartneriaid swyddogol.
“Ynghyd â Phartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein haelodau a’n cwsmeriaid nid yn unig yn ymwybodol o’r arferion gorau i osgoi marwolaethau ar ffermydd, ond hefyd eu bod yn ymwybodol o’r peryglon a’r anafiadau a all newid bywydau a chael effaith dwys ar eu bywydau. Mae un farwolaeth yn un yn ormod, yn union fel mae un anaf sy’n newid bywyd yn un yn ormod. Gyda’n gilydd byddwn yn parhau i ymdrechu i weld newid ystyrlon yn yr ystadegau hynny.”