Mae’r tymor wyna wedi cyrraedd – beth i’w ystyried
gan Jackie Burrows, Rheolwr Datblygu Busnes, Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf
Mae’r tymor ŵyna ar y trothwy. Yn ogystal â pharatoi eich fferm a’ch da byw ar gyfer y cyfnod dwys hwn, mae hefyd yn hanfodol ystyried ffactorau eraill, fel eich yswiriant. Gall hwn fod yn amser o straen ac yn gyfnod heriol i ffermwyr, gan orfod delio â genedigaethau dyrys, mabwysiadu a gweithio bob awr i sicrhau bod pethau’n mynd mor llyfn â phosibl. Y peth gorau yw paratoi ymlaen llaw fel eich bod yn barod ar gyfer y cyfnod hwn o risg uwch.
Rhagor o staff
Mae llawer o ffermydd yn llogi staff ychwanegol i helpu yn ystod y tymor ŵyna i ymdopi â’r llwyth gwaith cynyddol a’r prysurdeb. Cofiwch, hyd yn oed os taw dros dro yw eich staff, mae’n ofynnol yn gyfreithiol i chi gael yswiriant atebolrwydd cyflogwyr ac mae’r un rheolau yn berthnasol ar gyfer staff gwirfoddol. Gall yr unig eithriad fod yn berthnasol i aelodau uniongyrchol o’r teulu ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio hyn gyda’ch Gweithredwr Cyfrifon lleol yng Ngwasanaethau Yswiriant FUW.
Diadell fwy
Dylai eich yswiriant fferm gwmpasu pob elfen o’ch fferm, o adeiladau a chynnwys i dda byw ac atebolrwydd. Fodd bynnag, nid yw pob polisi’r un peth ac os na chymerir gofal am y manylion bach, mae’n bosib na fydd yr yswiriant cywir gyda chi. Er enghraifft, er y gallai eich diadell graidd gael ei chynnwys o dan eich polisi yswiriant, gallai’r ffigwr hwn ddyblu yn ystod y tymor ŵyna. Er mwyn sicrhau bod eich ŵyn wedi eu hyswirio, bydd angen i chi sicrhau bod eich polisi’n cynnwys eich praidd gan gynnwys ŵyn newydd eu geni. Er nad yw’r ŵyn yn cael eu hystyried fel eich praidd fel y cyfryw, pe bai unrhyw beth yn digwydd iddynt cyn iddynt gael eu gwerthu, bydd y nodwedd hon o’ch yswiriant yn sicrhau na fyddwch ar golled.
Ffoniwch eich cangen Gwasanaethau Yswiriant FUW leol am sgwrs gyda’n tîm cyfeillgar.