Beth sydd angen i chi ei wybod am fod yn landlord
gan Jackie Burrows, Rheolwr Datblygu Busnes, Gwasanaethau Yswiriant FUW Ltd
Ydych chi’n meddwl am rentu’ch eiddo? Dyma beth ddylech chi ei ystyried cyn i chi wneud hynny.
Hyblygrwydd
Mae bod yn landlord yn rhoi hyblygrwydd i chi drefnu eich amserlen waith eich hun. Er mwyn sicrhau eich bod wedi paratoi ar gyfer unrhyw beth, bydd angen i chi gael rhwydwaith gref o gysylltiadau yn yr ardal.
Nabod y bobl iawn
Fel landlord, bydd angen i chi nabod crefftwyr dibynadwy, gan gynnwys y rhai sy’n gallu cwblhau gwaith plymio a thrydanol proffesiynol. Hyd yn oed os ydych chi’n eithaf medrus gyda gwaith yn y cartref, nid yw pawb yn arbenigo ym mhob maes, felly bydd angen holi am gymorth arbenigol o bryd i’w gilydd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n nabod y bobl iawn cyn i argyfwng ddigwydd.
Rheoliadau
Mae gan landlordiaid reolau a rheoliadau i lynu atynt, o sut i drin blaendal y tenant yn gywir, at sicrhau bod safonau diogelwch yn y cartref yn cael eu cadw a throi tenantiaid allan yn gywir. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am eich gofynion cyfreithiol i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud yn gywir. Trwy hynny, gallwch gynnal enw da iawn a sicrhau diogelwch eich tenantiaid.
Dod o hyd i’r tenant iawn
Yn gyntaf, mae angen i chi benderfynu pwy rydych chi am rentu i. Meddyliwch am yr hyn y byddech chi ac na fyddech chi’n ei dderbyn yn eich eiddo prynu-i-osod. Ydych chi eisiau rhentu i fyfyrwyr neu a ydych chi’n targedu gweithwyr proffesiynol? Ydych chi am ddenu teuluoedd neu a ydych chi’n canolbwyntio ar denantiaid sengl? Meddyliwch a fyddwch chi’n derbyn anifeiliaid anwes, ysmygwyr ac ymgeiswyr DSS. Mae gennych bob hawl i benderfynu at bwy yr ydych am rentu’ch eiddo, ond nid yw’n ddrwg o beth i fod yn hyblyg wrth ddenu’r tenant iawn.
Yswiriant arbenigol
Nid yw yswiriant cartref safonol yn ddigonol os ydych chi’n landlord gan fod angen yswiriant arbenigol arnoch a fydd yn eich amddiffyn chi, eich busnes a’ch tenantiaid. Gydag Yswiriant Perchnogion Eiddo, bydd eich eiddo yn cael ei amddiffyn rhag y risgiau safonol megis tân, llifogydd a difrod storm, yn ogystal â’ch eiddo personol os ydych yn dewis hynny. Hefyd, bydd yn amddiffyn eich busnes yn erbyn hawliadau atebolrwydd, colli rhent, llety arall i’ch tenantiaid yn ogystal â difrod maleisus gan denantiaid.
I ddarganfod mwy am Yswiriant Perchnogion Eiddo, cysylltwch â’ch Gweithredwr Cyfrif yn eich swyddfa Gwasanaethau Yswiriant FUW leol – rhifau ffôn ar y dde – neu cysylltwch â ni drwy un o’r canlyniol: info@fuwinsurance.co.uk / www.fuwinsurance.co.uk