Mae’r amser yn iawn i mi ymddeol
8,114 diwrnod yn ôl – neu 22 Mlynedd, 2 fis, 17 diwrnod – ar Ebrill 14 1998, ar ôl cyfweliad â phanel o tua 35 aelod, cefais fy mhenodi’n Swyddog Ardal FUW, Gorllewin Sir Gaerfyrddin, a chymryd yr awenau gan Ronald ‘DJR’ Evans a oedd yn ymddeol ar ôl 33 mlynedd o wasanaeth. Heddiw, rydw i’n ymddeol ar ôl bron i ddwy flynedd fel Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Yswiriant FUW Ltd.
Mae llawer wedi digwydd yn yr 8,114 diwrnod hynny. Bydd cyfrifo premiymau cymhleth allan o lyfrau cyfradd enfawr o amgylch bwrdd y gegin a chyhoeddi cyfarwyddiadau i’r AGF, mewn llawysgrifen ar badiau memo triphlyg yn atgof pell i rai ohonom – ac yn rhywbeth hollol estron i’r mwyafrif o rai eraill!
Efallai y bydd rhai ohonom yn cofio’r tro cyntaf mentrodd yr FUW i mewn i fyd TG pan wnaethom dreialu TW Admin System, a oedd mewn gwirionedd, yn gam enfawr ymlaen ac o ystyried bod y system wedi’i hadeiladu’n gyfan gwbl yn fewnol gan ein cydweithiwr talentog, Tony Williams, roedd yn wych. Traed a Genau; IACS; Datganoli; gorymdeithio trwy Gaerdydd gydag areithiau ysgogol gan y Dirprwy Lywydd, Glyn Powell; lobïo yn San Steffan (cyn-datganoli) – fe wnaeth Denis Skinner ddangos ei wyneb a dweud ‘don’t let the bu**ers grind you down’ cyn diflannu; Protestiadau tanwydd yn Aberdaugleddau; hyd yn oed Bob Parry yn sefyll i lawr fel Llywydd – mi roedd wedi bod yn y swydd ers cymaint o amser Roedd bywyd yn ymddangos mor glinigol a dof, o’i gymharu â heddiw – nes i Covid ymddangos!
Roedd ehangu ein llwybrau i’r farchnad Yswiriant yn 2007 trwy ddod yn Froceriaid yn gyffro enfawr ac, yn ddiamau, wedi gosod y seiliau ar gyfer twf ein busnes a sicrhau dyfodol yr Undeb. SSP Sirius yn 2006/7 (Acturis oedd ein dewis cyntaf hyd yn oed bryd hynny) ac yna Acturis, sydd wedi sicrhau bod gennym y llwyfannau Brocer Cydymffurfiol sy’n hanfodol ar gyfer cynnal busnes yn y Farchnad Reoledig yr ydym yn gweithredu ynddi.
Rwy’n aml yn myfyrio ar ddewrder a gweledigaeth y deuddeg aelod sylfaen roddodd pob ffydd yn y sefydliad newydd hwn, yr FUW. Yn ogystal â’u dewrder, roedd y dynion hyn yn bragmatig ac yn ddigon craff i ddeall y byddai angen cyllid ar yr FUW – ac erbyn Rhagfyr 15 roedd trafodaethau eisoes wedi digwydd gyda NEM i ddarparu gwasanaethau yswiriant i’n haelodau. Mae’n fodel sydd wedi’i brofi’n dda ac sy’n cynnal y sefydliad hyd heddiw trwy’ch holl waith caled.
Rwy’n credu bod y FUW yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd ym 1955 wrth hyrwyddo a diogelu hyfywedd a chynaliadwyedd Amaethyddiaeth Cymru. A hynny nawr, mwy nag erioed, gyda thrychineb diweddar Brexit. Roedd yr FUW yn glir ac yn ddiamwys o ddechrau’r ddadl y byddai gadael Marchnad Rydd yr UE ac Ewrop yn drychinebus i Amaethyddiaeth Cymru.
Yn drychinebus, roedd canlyniad y refferendwm a’r ffin fain o blaid Brexit yn un o’r achlysuron prin iawn hynny y gallai’r bleidlais wledig fod wedi gwneud gwahaniaeth.
Mae fy nghysylltiad personol â FUW yn mynd nôl llawer ymhellach na 1998. Roedd fy niweddar nhad yn aelod yn y 1960au cynnar gan yswirio ei dyddyn ac yna’n ddiweddarach ei fusnes masnachol gyda FUW, a hynny drwy gydol ei oes. Roeddem yn gallu cynnig yswiriant amrywiol i fusnesau bach a chanolig hyd yn oed yn ôl bryd hynny!
Fe wnes i yswirio fy nghar cyntaf gyda NEM trwy FUW fel llanc 17 oed – yn chwerthinllyd, wrth edrych yn ôl, fe allech chi gael polisi ‘Unrhyw yrrwr’ am gymharol ychydig o arian – gwallgofrwydd yn ôl safonau heddiw. Gan fy mod yn ffermwr gweithgar rwyf wedi bod yn aelod ers dechrau’r 1980au.
Mae FUW a’i is-gwmni, FUWIS wedi cyflwyno cyfleoedd gyrfa sylweddol i mi dros y 22 mlynedd diwethaf – symud ymlaen o fod yn Swyddog Ardal i fod yn Rheolwr Rhanbarthol De Cymru yn 2006 ac wedi hynny yn Ddirprwy Reolwr Gweithrediadau. Pan ymgorfforwyd Gwasanaethau Yswiriant FUW Ltd fel cwmni Cyfyngedig ar wahân yn 2012, fel Cyfarwyddwr Cydymffurfiaeth ac yn y pen draw – er mewn amgylchiadau eithaf annisgwyl – Rheolwr Gyfarwyddwr ers mis Gorffennaf 2018.
Gorfododd digwyddiadau annisgwyl a thaith mewn hofrennydd, bellach dros saith mlynedd yn ôl, fi allan o’r busnes am bron i ddwy flynedd, ac yn golygu na ddychwelais i rôl llawn amser, er mewn gwirionedd rwyf wedi gwneud hynny yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r FUW yn gyflogwr hynod o hael, cefnogol, hyblyg a goddefgar. Mae ei pharodrwydd i gydweithio gyda mi drwy fy adferiad heriol a’r broses o ddychwelyd i’r gwaith bob amser yn aros gyda mi gyda hoffter a diolchgarwch.
Gyda thristwch mawr yr wyf wedi penderfynu ymddeol, ond mae’r amser yn iawn. Mae’r busnes mewn lle da. Bydd yna heriau bob amser. Mae’r farchnad yswiriant yn arbennig o gyfnewidiol ar hyn o bryd a bydd cyfraddau’n parhau i galedu a bydd gallu a chwant risg yn lleihau ond mae pob her yn gyfle y mae’r tîm cyfan yn barod amdano bob amser.
Mae Bwrdd FUWIS wedi penodi Guto Bebb yn Rheolwr Gyfarwyddwr, penodiad ardderchog. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Guto yn ystod y cyfnod trosglwyddo, er nad ydym wedi cwrdd wyneb yn wyneb ers iddo gael ei benodi! Amserau rhyfedd yn wir!!
Mae gennym Dîm Gweithredol ymroddedig, pob un yn dod ag arbenigedd a setiau o sgiliau gwahanol ac eang i’r busnes, a thîm gwerthu a chefnogi gweithgar, ymroddedig a hyblyg sy’n canolbwyntio ar adeiladu perthnasoedd a gwasanaeth o’r radd flaenaf.
Rwy’n dymuno’n dda i bawb yn yr FUW, yn aelodau, yn gydweithwyr a’ch teuluoedd a diolch i chi i gyd am eich cyfeillgarwch, cefnogaeth a’ch cwrteisi a ddangosir bob amser.
Cofion gorau,
Roger Van Praet