COVID-19: Gwybodaeth bwysig i’n haelodau a chwsmeriaid
Yn dilyn gwasgariad y Coronafeirws (COVID-19), rydym wedi penderfynu diogelu aelodau, cwsmeriaid a chyd-aelodau staff trwy gau pob swyddfa FUW.
Bydd pob aelod o staff yn gweithio o gartref am y dyfodol rhagweladwy gan sicrhau y bydd ein timau yn parhau i gynnig yr holl wasanaethau dros ffôn/e-bost/skype neu ffyrdd eraill o gyfathrebu o bell.
Dylai cwsmeriaid barhau i gysylltu gyda ni yn yr un modd ag arfer. Gallwch gysylltu â’r staff trwy ddefnyddio’r rhifau ffôn arferol.
Gweler manylion cyswllt eich swyddfa leol yma: https://www.fuwinsurance.co.uk/cy/contact-us/
Linciau pwysig ynglŷn â’r Coronafeirws:
Gweler y cyngor a chanllawiau diweddaraf gan y Llywodraeth DU yma: https://www.gov.uk/coronavirus
Gweler y cyngor a chanllawiau diweddaraf gan y GIG yma https://www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/